Amcanion yr Ymddiriedolaeth
I ddarparu grantiau bach, fel arfer yn amrywio rhwng £250 a £5,000, er y gall fod yn fwy mewn amgylchiadau eithriadol.
Bydd ceisiadau grant yn cael eu hystyried gan Gyngor y Dref a sefydliadau gwirfoddol (gan gynnwys clybiau, cymdeithasau a phrosiectau cymunedol) i ddarparu neu wella cyfleusterau, a mwynderau neu I gefnogi prosiectau un-tro er budd trigolion Porthaethwy.
Rydym wedi darparu grantiau i nifer o sefydliadau, er enghraifft, y Sgowtiaid a’r Geidiaid, Clwb Criced Porthaethwy, Clwb Rygbi Porthaethwy, Y Ganolfan Goffa, Band Porthaethwy a Grŵp Cymunedol Gŵyl Porthaethwy.
Pwy ydym ni?
Mae Ymddiriedolaeth Cilbedlam yn Elusen Gofrestredig (Rhif: 1080499) a greuwyd yn 2007 dan gynllun i reoli’r elw o werthu hen swyddfeydd y Cyngor yn Cilbedlam.
Mae’r cronfeydd hyn wedi’u buddsoddi fel Cyfalaf, gyda’r incwm a enillir yn darparu grantiau bach er budd cyffredinol trigolion Porthaethwy.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cynnwys hyd at 15 ymddiriedolwr sydd yn Gynghorwyr Tref Porthaethwy, a 3 ymddiriedolwr ychwanegol o’r gymuned.
Proses Ymgeisio a Meini Prawf Cymhwysedd Mae’r Ymddiriedolwyr yn cwrdd hyd at 4 gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau grant, fel arfer bob chwarter. Rhaid gwneud ceisiadau ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen gais isod.
• Bydd ceisiadau grant yn cael eu hystyried gan Gyngor y Dref a sefydliadau gwirfoddol (gan gynnwys clybiau, cymdeithasau a phrosiectau cymunedol) i ddarparu neu wella mwynderau, cyfleusterau neu gefnogi prosiectau un-tro er budd trigolion Porthaethwy.
• Rhaid i sefydliadau’r ymgeiswyr, a’u cyfleusterau a mwynderau, fod wedi’u lleoli yn Nhref Porthaethwy.
• Rhaid i bob cais grant gael ei gyd-fynd ag adroddiadau ariannol archwiliedig neu ardystiedig yn annibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.
• Rhaid i bob cais grant ddarparu manylion am ffynonellau ariannu eraill i ddangos hyfywedd ariannol y cynllun, gan na fydd yr Ymddiriedolaeth yn talu cost llawn y cynllun.
• Rhaid i bob cais grant allu dangos angen ariannol am y grant a geisir.
• Bydd ceisiadau ar gyfer cynlluniau ôl-weithredol neu’r rheini lle mae gwaith eisoes wedi dechrau yn cael eu gwrthod.
• Bydd ceisiadau yn cael eu gwrthod gan sefydliadau gwirfoddol sydd wedi elwa o gefnogaeth grant o’r gronfa hon yn y ddwy flynedd flaenorol.
• Bydd ceisiadau ar gyfer costau cynnal a chadw rheolaidd a chostau rhedeg yn cael eu gwrthod. Lle bo’n briodol, dylai sefydliadau ymgeiswyr gyflwyno tri dyfynbris cadarn ar gyfer y cynllun arfaethedig. • Yn dibynnu ar natur y gwariant, rhaid i’r ymgeiswyr gael sicrwydd o denantiaeth ar gyfer lleoliad eu cynllun, drwy berchnogaeth, prydles neu drwydded i feddiannu am dymor sy’n gyson â natur y gwariant hwnnw.
Rhaid cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau i Ymddiriedolaeth Cilbedlam, d/o Cyngor Tref Porthaethwy, Coed Cyrnol, Porthaethwy.
Proses Hawlio Grant
Dylai ymgeiswyr nodi’r canlynol mewn perthynas ag hawlio a thalu’r grant:
• Bydd unrhyw grant a ddyfernir yn cael ei dalu ar ôl cwblhau’r cynllun. Rhaid darparu tystiolaeth o’r cwblhau drwy gopïau o anfonebau ac ardystiad eu taliad. Os bydd cyfanswm gwirioneddol cost y cynllun yn llai na’r hyn a amcangyfrifwyd yn y cais grant, bydd y grant a delir yn cael ei leihau’n gymesur. Ni fydd y grant yn cael ei gynyddu o dan unrhyw amgylchiadau os bydd cyfanswm cost y cynllun yn fwy na’r hyn a amcangyfrifwyd yn y cais grant.
• Oni nodir yn benodol yn y llythyr dyfarnu grant, rhaid hawlio’r grant o fewn 12 mis i’r dyddiad dyfarnu. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, gall y sefydliad ymgeisio wneud cais am estyniad cyn i’r cyfnod 12 mis hwn ddod i ben, a bydd yr estyniad yn cael ei ystyried yn ôl disgresiwn yr Ymddiriedolaeth lle mae esboniad rhesymol, er enghraifft, oedi wrth gwblhau gwaith sydd y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd.
Ffurflen Gais am Grant
RHAID i geisiadau am grant gynnwys Y CWBWL o’r canlynol:
1 Dyddiad
2 Enw’r Sefydliad Ymgeisio
3 Enw’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais
4 Cyfeiriad
5 Cyfeiriad e-bost cyswllt
6 Rhif ffôn cyswllt
7 Teitl y cais
8 Disgrifiad o’r cynllun a’r achos o blaid y cais (ceisiwch fod mor gryno â phosibl)
9 Buddion y cynllun i’r Sefydliad Ymgeisio a thrigolion Porthaethwy
10 Cyfiawnhad am yr angen ariannol – cynnwys cyfrifon archwiliedig/ardystiedig am y flwyddyn ariannol ddiweddaraf
11 Cyfanswm cost y cynllun – cynnwys 3 dyfynbris
12 Swm y grant a geisir gan yr Ymddiriedolaeth 13 Manylion am unrhyw gyllid arall a geisir/wedi cael ei addo
14 Ymrwymiad ariannol y Sefydliad Ymgeisio i’r cynllun