Canslo Ffair Borth Hydref 2020

Mae’r Coronafeirws wedi gorfodi Cyngor Sir Ynys Môn i ganslo Ffair Borth eleni, digwyddiad a oedd fod i’w gynnal ar Ddydd Sadwrn, Hydref 24ain. Mae’r ffair stryd flynyddol yn denu cannoedd o bobl fel arfer ond gyda phryderon am allu i gadw pellter cymdeithasol, a’r posibilrwydd o ledaeniad y feirws, doedd gan y Cyngor Sir ddim dewis ond canslo’r digwyddiad poblogaidd.

Eglurodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Les Pursglove, “Gan ystyried maint y digwyddiad a’r niferoedd sy’n mynychu, doedd dim modd i ni sicrhau’r mesurau diogelwchangenrheidiol er mwyn gallu rheoli’r ffair yn effeithiol o fewn y rheoliadau Coronafeirws presennol. Yn wahanol i ffair deithiol a gynhelir ar dir preifat, mae Ffair Borth yn ddigwyddiad ar strydoedd cyhoeddus. O ganlyniad, ni fyddai’n bosib rheoli’r niferoedd yn mynychu’r ffair mewn ffordd ddiogel.

Ychwanegodd, “Mae’n bechod ond mae’n rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf ac ni allwn achosi risg pellach o’r feirws yn lledaenu ar yr Ynys.”

Mae busnesau a deiliaid stondinau wedi eu hysbysu am y penderfyniad a bydd y cynlluniau i gau’r ffyrdd bellach yn cael eu diddymu.

Dywedodd y Deilydd Portffolio Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Richard Dew “Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud er lles iechyd a llesiant ein trigolion. Gan gofio pwysigrwydd y gofynion i gadw pellter cymdeithasol i atal lledaeniad Covid-19, ni fyddai cynnal Ffair Borth eleni wedi bod yn rhywbeth cyfrifol i ni ei wneud. Wrth gwrs, gobeithiwn y bydd modd i’r Ffair ddychwelyd yn ddiogel i’r dref yn 2021.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am Ffair Borth cysylltwch â:

trwyddedu@ynysmon.gov.uk