Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi lansio ap digidol newydd y gellir ei ddefnyddio mewn 7 lleoliad gwahanol o amgylch Cymru. Mae un o’r lleoliadau yng nghyffiniau Carreg yr Halen ym Mhorthaethwy.
Nod yr ap yw annog mwy o bobl i fynd allan yn yr awyr agored gyda delweddau deniadol, straeon llawn gwybodaeth a gemau rhyngweithiol ar hyd y diddordebau mwyaf nodedig ar y llwybr.
Mae’r ap yn defnyddio cymorth realiti estynedig i wella profiad ymwelwyr i’r Fenai.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ap cliciwch ar y cyswllt isod
https://www.walescoastpath.gov.uk/plan-your-visit/wales-coast-path-app/?lang=cy